|
For one week each July, the picturesque town of Llangollen is where Wales Welcomes the World, in a unique festival of international music and dance with peace at its heart.
|
A limited amount of Early Bird (Tier 1) Pavilion Day tickets have been released at the discounted rate of only £10. This gives you a reserved prime location seat inside the Pavilion to watch the competitions. Book here.
|
What’s On
The festival field is a true feast for the senses, with impromptu singing and dancing from every corner of the world. Enjoy a unique day out with plenty of experiences to choose from: Circus Skills, Arts and Crafts activities, Dance Workshops, Face Painting and a whole host of fascinating exhibitions, stalls and delicious international cuisine.
Our three outdoor stages are full to the brim with some fantastic artists performing a variety of live World Music and Dance, Folk, Classical, Jazz, Indie, Acoustic, Roots, Opera, Celtic Reggae, and Rock.
Experience world class talent in the main pavilion where choirs, dancers and soloists from over 25 countries compete for the highest accolades.
|
 |  |
In the town
Recitals @1 in St Collen’s Church
Prelims in the Town Hall and Methodist Church.
‘Dancing in the Street’ in the Riverside Park.
International performances in Centenary Square.
|
Don’t miss…the spectacular Parade of Nations at 4.30pm on Friday; a vivacious display of international unity and friendship through the streets of Llangollen. Follow the Parade back to the field for only £1 to enjoy the pre-concert bands until 7.15pm
|
The Eisteddfod will be heading to Wrexham for Tŷ Pawb's 1st Birthday celebrations. 'Dydd Llun 2' will take place on Easter Monday 22nd April.
Elan Catrin Parry and Wrexham One Love Choir will be representing the Eisteddfod at the event. Please come and join us at this FREE all-day event featuring live performances, music and entertainment with family activities, arts and crafts for all ages.
|
|
|
|
|
| |
| |
|
|
|
|
Am un wythnos bob mis Gorffennaf, tref hardd Llangollen yw’r fan lle mae 'Cymru’n Croesawu'r Byd', mewn gŵyl unigryw o gerddoriaeth a dawns ryngwladol gyda heddwch yn ganolog iddi.
|
Mae swm cyfyngedig o docynnau 'cynnig cynnar' i'r Pafiliwn yn y dydd (Haen 1) wedi'u rhyddhau ar gyfradd ostyngol o ddim ond £10. Mae hyn yn rhoi sedd mewn lleoliad gwych i chi yn y Pafiliwn i wylio'r cystadlaethau.Prynwch yma.
|
Beth sydd ymlaen
Mae maes yr ŵyl yn wledd wirioneddol i'r synhwyrau, gyda chanu a dawnsio byrfyfyr o bob cwr o'r byd. Mwynhewch ddiwrnod allan unigryw gyda digonedd o brofiadau i ddewis o'u plith: Sgiliau Syrcas, Gweithgareddau Celf a Chrefft, Gweithdai Dawns, Paentio Wynebau a llu o arddangosfeydd, stondinau a bwyd rhyngwladol blasus.
Mae ein tri llwyfan awyr agored yn llawn i’r ymylon gydag artistiaid gwych yn perfformio amrywiaeth o gerddoriaeth a dawns yn fyw, gan gynnwys Cerddoriaeth Byd, Gwerin, Clasurol, Jazz, Indie, Acwstig, ‘Roots’, Opera, Reggae Celtaidd, a Roc.
Dewch i weld a chlywed perfformwyr dawnus tu hwnt yn y prif bafiliwn lle bydd corau, dawnswyr ac unawdwyr o dros 25 o wledydd yn cystadlu am y gwobrau mawr.
|
 |  |
Yn y dref
Datganiadau @1 yn Eglwys Sant Collen.
Rhagbrofion yn Neuadd y Dref a'r Eglwys Fethodistaidd.
‘Dawnsio yn y Stryd’ ym Mharc Glanyrafon.
Perfformiadau rhyngwladol yn Sgwâr Canmlwyddiant.
|
Peidiwch â cholli…digwyddiad lliwgar Gorymdaith y Cenhedloedd am 4.30yp ar ddydd Gwener; arddangosfa fywiog o undod a chyfeillgarwch rhyngwladol ar hyd strydoedd Llangollen. Dilynwch yr Orymdaith yn ôl i’r maes am £1 yn unig i fwynhau'r bandiau cyn y cyngerdd tan 7.15yh.
|
Bydd yr Eisteddfod yn mynd i Wrecsam ar gyfer dathliadau Pen-blwydd 1afTŷ Pawb. Cynhelir 'Dydd Llun 2' ar ddydd Llun y Pasg, 22 Ebrill.
Bydd Elan Catrin Parry a Wrexham One Love Choir yn cynrychioli'r Eisteddfod yn y digwyddiad. Dewch i ymuno â ni yn y digwyddiad yma YN RHAD AC AM DDIM fydd yn cynnwys perfformiadau byw, cerddoriaeth ac adloniant gyda gweithgareddau teuluol, celf a chrefft i bob oed.
|
|
|
|
|
| |
| |
|
Geen opmerkingen:
Een reactie posten