![]() |
Llangollen Online presents special message from HRH The Prince of Wales plus online premiere of Global Peace Message as part of ‘Eisteddfod Week’ programme |
Last month, we launched ‘Llangollen Online’ #connectingtheworld, a digital offering to bring together our global community following the postponement of this year’s festival.
Next week, in what would have been ‘Eisteddfod Week’, we have a programme of online activity to give a flavour of the International Eisteddfod to our many participants and visitors who usually descend on this picturesque Denbighshire town each July.
Artistic Director, Edward-Rhys Harry, says " This is the first time we have ever done anything like this and we are all so excited to be able to share it online with our international community. It has been amazing to have Mererid Hopwood create a new poem for us that has captured the essence of our festival, and we have been overwhelmed by the generosity of others who have given their time to help us create Llangollen Online. We feel very humbled and grateful and hope people enjoy the ‘flavour of Llangollen’ this year.”
|
|
GLOBAL PEACE MESSAGE |
On Thursday 9 July, as part of the festival’s traditional ‘Peace Day’, online audiences will be treated to the premiere of a Global Peace Message. The main feature will be a relayed spoken word performance of a specially commissioned poem, Harmoni a Heddwch, written by Mererid Hopwood. Those taking part in the message include LIME President Terry Waite plus children from Ysgol Rhostyllen, St Giles School Wrexham and Ysgol Dinas Bran. The online premiere will also present the first performance of a new piece of music, sung by Wrexham soprano, Elan Catrin Parry, with words by Hopwood and music by Edward-Rhys Harry.
|
![]() |
DAILY PROGRAMME |
|
VOTING RESULTS |
|
WATCH AGAIN |
|
We hope you enjoy Llangollen Online! |
Did you know? We are a not for profit organisation that relies greatly on supporters, ticket sales and donations.
|
![]() |
Llangollen Arlein yn cyflwyno neges arbennig gan Dywysog Cymru ynghyd â’r Neges Heddwch Rhyngwladol gyntaf erioed arlein fel rhan o raglen ‘Wythnos yr Eisteddfod’
|
Y mis diwethaf, lansiodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ‘Llangollen Arlein’ #cysyllturbyd, sef cynnig digidol i ddod â’i chymuned fyd-eang ynghyd yn dilyn gohirio gŵyl eleni.
Yr wythnos nesaf, yn yr hyn a fyddai wedi bod yn ‘Wythnos yr Eisteddfod’, bwriedir darparu rhaglen o weithgareddau arlein i roi blas o’r Eisteddfod Ryngwladol i’r nifer fawr o gyfranogwyr ac ymwelwyr sydd fel arfer yn tyrru bob Gorffennaf i’r dref hardd hon yn Sir Ddinbych.
Dywed Edward-Rhys Harry, Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: "Dyma'r tro cyntaf erioed i ni wneud unrhyw beth fel hyn ac rydym yn teimlo’n gyffrous iawn i allu rhannu’r neges arlein gyda'n cymuned ryngwladol. Mae wedi bod yn anhygoel cael Mererid Hopwood i greu cerdd newydd i ni sydd wedi crisialu hanfod ein gŵyl, ac rydym wedi ein rhyfeddu gan haelioni pobl eraill sydd wedi rhoi o’u hamser i’n helpu i greu Llangollen Arlein. Rydym yn teimlo’n wylaidd a diolchgar iawn ac yn gobeithio y bydd pobl yn mwynhau cael ‘blas o Langollen’ eleni.”
|
|
NEGES HEDDWCH RHYNGWLADOL |
Ar ddydd Iau y 9fed o Orffennaf, fel rhan o ‘Ddiwrnod Heddwch’ traddodiadol yr ŵyl, bydd cynulleidfaoedd arlein yn cael gweld Neges Heddwch Rhyngwladol gyntaf erioed yr Eisteddfod. Prif ran y digwyddiad fydd perfformiad llafar o gerdd gomisiwn arbennig, Harmoni a Heddwch, a ysgrifennwyd gan Mererid Hopwood. Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan y mae Llywydd yr Eisteddfod Ryngwladol, Terry Waite, ynghyd â phlant o Ysgol Rhostyllen, Ysgol San Silyn Wrecsam ac Ysgol Dinas Bran. Bydd y premiere arlein hefyd yn cyflwyno perfformiad cyntaf darn newydd o gerddoriaeth, wedi'i ganu gan y soprano o Wrecsam, Elan Catrin Parry, gyda geiriau gan Mererid Hopwood a cherddoriaeth gan Edward-Rhys Harry.
|
![]() |
RHAGLEN Y DYDD |
|
CANLYNIADAU |
|
GWYLIWCH ETO
|
|
Gobeithiwn y byddwch chi'n mwynhau Llangollen Arlein! |
Oeddech chi'n gwybod? Rydym yn sefydliad 'nid-er-elw' sy'n dibynnu'n fawr ar gefnogwyr, gwerthiannau tocynnau a rhoddion
|
|








Geen opmerkingen:
Een reactie posten