SPREAD THE INFORMATION

Any information or special reports about various countries may be published with photos/videos on the world blog with bold legit source. All languages ​​are welcome. Mail to lucschrijvers@hotmail.com.

Search for an article in this Worldwide information blog

vrijdag 26 juli 2019

Welsh - Llangollen 2019: Thank you - Diolch

Facebook Twitter
Forward
Llangollen International Musical Eisteddfod - 1 - 7 July
Llangollen 2019: Thank You!
Can you believe it’s already been 3 weeks since we Welcomed the World to Wales…and what a week it was! We are still reliving all the special moments, with too many highlights to mention. We are incredibly proud of what this small community manages to achieve, year on year, since 1947.

If you visited us this year, we hope you enjoyed the experience as much as we did; the high standard of competitions showcasing such diverse cultures from all over the world, the top-class evening concerts spanning so many different genres, and of course the spectacular Parade of Nations through the streets of Llangollen, embodying the true spirit of the Eisteddfod.

We are immensely grateful for the support from our volunteers, participants, sponsors, partners, and Friends of the Eisteddfod, but most of all we want to say a big thank you to you, our audience, who make the International Eisteddfod the unique, magical experience that it is each year.

Thank you from the entire Llangollen 2019 team.
**Stop Press**: The Llangollen Fringe Festival is on this week! Tonight (Friday 26 July) Llangollen Town Hall will host Emmanuel Jal & Nyaruach, musicians and peace ambassadors from South Sudan, for their first ever performance in Europe. Visit the Fringe website for further information and to buy tickets.
Did you know... We are a non-profit making organisation that benefits greatly from supporters, ticket sales and donations.
Follow us on social media for all the latest updates!


Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen - Gorffennaf 1 - 7
Llangollen 2019: Diolch!
Allwch chi gredu ei bod hi eisoes yn 3 wythnos ers i ni Groesawu'r Byd i Gymru… a dyna oedd wythnos! Rydym yn dal i ail-fyw’r holl eiliadau arbennig, gyda gormod o uchafbwyntiau i'w henwi, ond rydym yn hynod falch o'r hyn y mae'r gymuned fach hon yn llwyddo i'w gyflawni, o flwyddyn i flwyddyn, ers 1947.

Os gwnaethoch chi ymweld â ni eleni, gobeithiwn eich bod wedi mwynhau'r profiad gymaint ag y gwnaethon ni; safon uchel y cystadlu oedd yn arddangos diwylliannau mor amrywiol o bob cwr o'r byd, cyngherddau nos o'r safon uchaf oedd yn pontio cymaint o arddulliau gwahanol, ac wrth gwrs, digwyddiad ysblennydd Gorymdaith y Cenhedloedd trwy strydoedd Llangollen, oedd yn ymgorfforiad o wir ysbryd yr Eisteddfod Ryngwladol.

Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan ein gwirfoddolwyr, ein cyfranogwyr, ein noddwyr, ein partneriaid, a Chyfeillion yr Eisteddfod, ond yn bennaf oll, rydym am ddiolch yn fawr i chi, ein cynulleidfa, sy'n gwneud yr Eisteddfod Ryngwladol yn brofiad unigryw a hudolus bob blwyddyn.

Diolch yn fawr gan bawb yn tîm Llangollen 2019.
**Newyddion yn boeth o’r wasg**: Mae Gŵyl Ymylol Llangollen ymlaen yr wythnos hon! Heno (Nos Wener 26 Gorffennaf) bydd Neuadd y Dref Llangollen yn gweld perfformiadau gan Emmanuel Jal & Nyaruach, cerddorion a llysgenhadon heddwch o Dde Swdan, ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf erioed yn Ewrop. Ewch i wefan Fringe am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau.
Oeddech chi'n gwybod ... Rydym yn sefydliad 'nid-er-elw' sy'n dibynnu'n fawr ar gefnogwyr, gwerthiannau tocynnau a rhoddion.
Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol am yr holl ddiweddariadau!

Geen opmerkingen:

Een reactie posten